Sillafiad yr Aeleg mewn Cneuellyn

Ydych chi wedi bod yn synnu erioed wrth geisio datrys y rheswm am yr holl h-iad a chysylltiadau hirion llafariaid? Rhoddaf I ddisgrifiad byr yma a ddylai alluogi ichi ddechrau deall sillafiad yr Aeleg yn llwyddiannus. Yn gyntaf, rhaid inni edrych ar sut y trefnir dull seiniau'r Aeleg, ac yna bydd darn bach o ramadeg sylfaenol. Wedi hynny, ni ddylech ganfod gormod o anhawster wrth barhau.

Leathann ri leathann agus caol ri be?

Wrth ddod o hyd I Aeleg ysgrifenedig am y tro cyntaf, tynn eich sylw at y maint o lafariaid sy'n canlyn ei gilydd. Pam hynny? Rhaid inni ddechrau gan ystyried cysonynnau Gaeleg. Aie, cysonynnau.Mae gan yr Aeleg (fel arfer) ddau amrywiad ar bob cysonyn. Fe'u gelwir y naill yn llydan neu leathann, a'r llall yn gul neu caol. Dyma rai enghreifftiau:

Taflen 1: leathann / caol. Clicia ar y llun i'w wneud yn fwy
Taflen 1: leathann / caol. Clicia ar y llun i'w wn...
 
Wrth gwrs, para'r rhestr. Nawrte, beth sydd I'w ymwneud â llafariaid? Diffyg nodau gwyddorol yw'r broblem, sut I sillafu dau ffurf wahanol ar t, s ac ymlaen. Cofiwch fod pâr tebyg gan bob cysonyn...Mae'r Aeleg yn datrys y broblem hon gan rannu'r llafariaid yn llydan a chul hefyd, ac yna i gadarnhau I bob cysonyn gael ei ymgylchu gan lafariaid addas. Felly, cul ydy e ac i a llydan ydy a, o ac u (ni ddefnyddir w ac y fel llafariaid yn yr Aeleg). Felly, mae llawer llafariad yn bresennol dim ond I fynegu sut I ynganu'r cysonyn o'u hochr!

Hud y Llythrennau H

Mae'r llythyren H yn digwydd ymhobman yn yr Aeleg ac fe'I defnyddir I ddangos math o dreiglad Gaeleg, sy'n cyfateb mwy neu lai I'r Treiglad Llaes yn y Gymraeg. Wel, cyfuniad o'r treigladau Llaes a Meddal, fel y ceir ar ôl "ni" yn y Gymraeg. Dyma rai enghreifftiau:

Taflen 2: treiglo'n llaes. Clicia ar y llun i'w wneud yn fwy
Taflen 2: treiglo'n llaes. Clicia ar y llun i'w wn...
 
Efallai fod hyn yn haws na'r dull Cymraeg I fynegi treigladau, sy'n peri, weithiau, sillafiad gan lythyren hollol wahanol. Er enghraifft, ble mae "frawd" neu "mrawd" mewn geiriadur Cymraeg? Oni wyddoch fod "f" ac "m" yn dreigladau "b", byddech chi ar goll wrth geisio dod o hyd I'r ystyr. Yng Ngaeleg,yr Alban nid oes ond un treiglad a fynegir wrth ysgrifennu, a hynny bob tro gan ychwanegu H, felly mae dod o hyd I eiriau'n haws mewn geiriadur Gaeleg..Weithiau, wrth gwrs, mae cyfuniadau cysonyn + H heb eu hynganu mwyach heddiw - oni ddigwydd hyn yn y Gymraeg hefyd, e.e. mewn geiriau fel ""haf", "defnydd" ac ati lle mae'r F heb ei hynganu gan lawer?

Ac ai dyna bopeth?

Nage, wrth gwrs. Mae eithriadau, fel arfer oherwydd rhesymau hanesyddol.Ymhellach, ni soniais i am y llafariaid eu hunain. Amgymaf I ichi chwilio y tywys ynganu a'r ffeiliau sŵn yn Akerbeltz.org, neu lyfr Mihangel Bauer "Blas na Gàidhlig".

Darlleniad Gaeleg llawen

Translation by Seonaidh
An deasachadh mu dheireadh: 26mh dhen Ghiblean 2014 12:46:58