Wrth ddod o hyd I Aeleg ysgrifenedig am y tro cyntaf, tynn eich sylw at y maint o lafariaid sy'n canlyn ei gilydd. Pam hynny? Rhaid inni ddechrau gan ystyried cysonynnau Gaeleg. Aie, cysonynnau.Mae gan yr Aeleg (fel arfer) ddau amrywiad ar bob cysonyn. Fe'u gelwir y naill yn llydan neu
leathann, a'r llall yn gul neu
caol. Dyma rai enghreifftiau:
Taflen 1. leathann / caolSillafiad | Llydan / leathann | Cul / caol |
---|
t | t̪ | t fel yn "taw" | tʲ | ts fel yn "coets" |
s | s | s fel yn "sawl" | ʃ | s fel yn "siop" |
ch | x | ch fel yn "chwech" | ç | ç fel yn "ich" Almaeneg |
gh | ɣ | fel ch efo llais | ʝ | i fel yn "iawn" |